Croeso i Achredu Landlordiaid Cymru

Canllawiau Pellach i Denantiai

Dylai landlordiaid da ddenu tenantiaid da, felly mae’n bwysig eich bod chithau’n gwybod eich dyletswyddau fel tenantiaid, gan fod rhentu eiddo’n golygu cyfaddawd rhwng y naill barti a’r llall.

Fel tenant, bydd eich hawliau’n cynnwys:

  • Cael gwybod telerau’r denantiaeth;
  • Cael gwybod enw a chyfeiriad y landlord;
  • Cael llety sydd mewn cyflwr derbyniol ac yn ddiogel;
  • Cael rhybudd priodol os bydd y landlord yn dymuno archwilio’r eiddo;
  • Cael rhybudd priodol os bydd y landlord yn dymuno i chi adael; ac

Mae gan eich Landlord hawliau hefyd, gan gynnwys:

  • Pennu telerau’r cytundeb cyn i’r denantiaeth ddechrau;
  • Derbyn y rhent ar y dyddiad y bydd yn ddyledus;
  • Cael ei hysbysu o unrhyw waith atgyweirio angenrheidiol;
  • Cael rhybudd priodol gan denant os bydd ef/hi yn dymuno gadael;
  • Cael archwilio’r eiddo trwy drefnu apwyntiad.

Beth sy’n digwydd i landlordiaid nad ydynt yn gosod llety da?

Gall landlordiaid nad ydynt yn rhedeg eu heiddo yn briodol wynebu dirwyon mawr os cânt eu herlyn yn llwyddiannus. Ni fydd y mathau hyn o landlordiaid ac asiantau yn aelodau o'r Cynllun Achredu Landlordiaid hwn.

Mae Cynghorau am wneud y Sector Rhent Preifat yn ddeniadol i denantiaid. Maent am helpu i annog a chydnabod landlordiaid da fel y gallant ganolbwyntio ar y dyrnaid o landlordiaid drwg sy’n parhau i weithredu gan roi enw drwg i'r sector rhent.

A wyddech chi?

Trwyddedu Llety a Rennir:

Mae rhai mathau o lety’n gofyn am wahanol lefelau o reolaeth ac amwynderau. Er enghraifft, os ydych yn byw mewn fflat 1 ystafell wely a adeiladwyd yn bwrpasol, ni fydd arnoch angen cynifer o amwynderau â rhywun sy’n rhannu ty mawr gyda 7 unigolyn arall nad oeddent yn adnabod ei gilydd.

Ar gyfer tai â thri llawr neu fwy, lle bo 5 neu ragor o bobl yn rhannu amwynderau megis ceginau ac ystafelloedd ymolchi, mae'n debygol y bydd gofyniad cyfreithiol i'r landlord a'r eiddo fod â thrwydded (Tai Amlfeddiannaeth Trwyddedadwy yw’r enw a roddir ar eiddo o’r math hwn). Yn ychwanegol, mae rhai Cynghorau yn rhedeg cynlluniau trwyddedu pellach ar gyfer mathau eraill o dai. Ni ddylech annog landlordiaid diegwyddor, ac ni ddylech fodloni ar eiddo ansafonol wrth rentu, waeth pa mor rhad yr ymddengys. Trwy rentu mewn ty trwyddedig sydd wedi'i reoleiddio'n briodol byddwch yn aros mewn eiddo diogel, wedi’i reoli’n dda gyda’r cyfleusterau cywir.

Cofiwch, mae trwyddedau tai amlfeddiannaeth yn ofynnol yn ôl y gyfraith, ond gwirfoddol yw’r Achrediad Landlordiaid.

Ernesau:

DepositsOs yw’ch landlord neu asiant wedi cymryd ernes oddi arnoch, a’ch tenantiaeth wedi dechrau ers 7 Ebrill 2007, rhaid iddo ef/hi fod wedi diogelu’r ernes trwy ei rhoi mewn cynllun a gymeradwywyd gan y Llywodraeth, h.y. cynllun gwarchod neu gynllun yswiriant. O fewn 14 diwrnod o gymryd yr ernes bydd rhaid i’r landlord hefyd eich hysbysu o’r dull ar gyfer ei diogelu. I gael rhagor o wybodaeth am y Cynllun Ernes Tenantiaeth a’r modd y mae’n effeithio arnoch chi, ewch i: http://www.direct.gov.uk/en/TenancyDeposit/index.htm

Mae rhagor o wybodaeth ar gyfer tenantiaid i’w gael yn yr adran ‘dogfennau i’w llwytho’.

Popular PagesPopular Pages

CPD Events
News
 

NewsLawr lwythiadau

PDFRent Officers Wales Presentation Regarding Housing Benefit Changes Jan 2011 (From Merthyr Landlord Forum) Download Now >
Cyngor Sir Ynys Môn Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili Cyngor Caerdydd Cyngor Sir Gaerfyrddin Cyngor Sir Ceredigion Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy Cyngor Sir Ddinbych Cyngor Sir y Fflint Cyngor Gwynedd Cyngor Bwrdeisdref Sirol Merthyr Tydfil Cyngor Sir Fynwy Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell nedd Port Talbot Cyngor Dinas Casnewydd Cyngor Sir Penfro Cyngor Sir Powys Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf Dinas a Sir Abertawe Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen Cyngor Bro Morgannwg Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam Llywodraeth Cynulliad Cymru