Canllaw i Landlordiaid
Mae amrywiaeth eang o wybodaeth ar gael i landlordiaid ac asiantau sy'n ymwneud â'r farchnad rhentu. Fodd bynnag, gan mai'r Awdurdodau Lleol yw'r awdurdod gorfodi ar gyfer llawer o'r safonau rheoli ac amodau o fewn eiddo rhent, rydym yn awyddus i roi’r wybodaeth yn uniongyrchol i’r landlordiaid, a hynny o’r persbectif Cymreig.
Weithiau, byd llwybrau landlordiaid ac Awdurdodau Lleol yn croesi pan fo safonau'n gostwng mewn llety neu ymhlith y rheolwyr o wahanol lefelau. Rydym yn gobeithio, trwy ddarparu gwybodaeth yn rhwydd ac yn uniongyrchol i’r landlordiaid, y bydd landlordiaid rhagweithiol a phroffesiynol yn rhedeg eu stoc tai rhent preifat mewn modd effeithiol. Gan hynny, ni fydd raid i'r awdurdodau lleol ond delio â'r nifer fach o landlordiaid nad ydynt yn gwella'u safonau hyd yn oed pan ddylent wybod yn well.
Mae’r tudalennau yn yr adran hon yn rhoi disgrifiad cryno o'r materion allweddol y dylai landlordiaid ac asiantau fod yn ymwybodol ohonynt wrth redeg eu busnes rhentu.
Yn ychwanegol, cewch wybod am ddigwyddiadau yn eich ardal chi lle cewch gyfle i gwrdd â landlordiaid eraill a chael gwybodaeth newydd sy’n berthnasol i chi.