Croeso i Achredu Landlordiaid Cymru

Beth?

Project gwirfoddol, cenedlaethol yw Achredu Landlordiaid Cymru (ALC), sy’n cael ei redeg gan y 22 Awdurdod Lleol (ALl) yng Nghymru.

Seilir y Cynllun ALC ar y gred y bydd landlordiaid, po fwyaf ymwybodol a gwybodus ydynt ynghylch y prif faterion rheoli eiddo, yn fwy tebygol o gynnal a chadw eu heiddo i safon uwch; o ganlyniad, bydd diogelwch ac iechyd eu tenantiaid yn cael ei wella a’u busnesau wedi’u diogelu’n well.

Trwy ddarparu gwybodaeth a chyfleoedd datblygu proffesiynol i landlordiaid ar draws Cymru, bydd y cynllun yn:

  • Cynorthwyo landlordiaid achrededig i weithredu busnes rhentu llwyddiannus.
  • Darparu llety diogel, wedi’i reoli’n dda, i denantiaid.
  • Darparu brand hawdd ei adnabod, y gellir ymddiried ynddo, ar gyfer landlordiaid sy’n hysbysebu eu heiddo a thenantiaid sy’n chwilio am lety.
  • Lleihau nifer y landlordiaid sydd angen ymyrraeth gan y Cyngor i ddatrys problemau. Dylai hyn, yn ei dro, olygu y gall Cynghorau dargedu’r nifer fach o landlordiaid na fyddant yn gwella’r safonau yn eu llety heb oruchwyliaeth drylwyr neu, mewn rhai achosion, camau cyfreithiol.

Os hoffech ddarllen disgrifiad llawn o’r cynllun, er mwyn cael gwybod am ei bwrpas a sut caiff ei redeg, mae croeso i chi lwytho’r ddogfen Canllaw i’r Cynllun yn yr adran ‘dogfennau i’w llwytho’ o’r wefan hon..

Popular PagesPopular Pages

CPD Events
News
 

NewsLawr lwythiadau

PDF2011 February - Newsletter (High Resolution) English Download Now >
Cyngor Sir Ynys Môn Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili Cyngor Caerdydd Cyngor Sir Gaerfyrddin Cyngor Sir Ceredigion Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy Cyngor Sir Ddinbych Cyngor Sir y Fflint Cyngor Gwynedd Cyngor Bwrdeisdref Sirol Merthyr Tydfil Cyngor Sir Fynwy Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell nedd Port Talbot Cyngor Dinas Casnewydd Cyngor Sir Penfro Cyngor Sir Powys Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf Dinas a Sir Abertawe Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen Cyngor Bro Morgannwg Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam Llywodraeth Cynulliad Cymru