Cynlluniau Achredu Eraill
Efallai eich bod eisoes yn rhan o gynllun Achredu arall sy’n cael ei redeg gan un o’r Cynghorau yng Nghymru neu gan Bartneriaeth Llundain. Os hynny, darllenwch ymlaen i ganfod sut y bydd hyn yn effeithio ar eich aelodaeth o’r cynllun hwn:

Cynllun Achredu Landlordiaid Llundain (LLAS):
Mae Achredu Landlordiaid Cymru yn aelod cyswllt o LLAS, felly os ydych eisoes yn aelod o Gynllun Llundain gellwch fynd yn aelod o'r Cynllun Cymru yn awtomatig. Cysylltwch â gweinyddwr y cynllun trwy'r dudalen 'cysylltwch â ni' i fanteisio ar y cynllun Cymreig hefyd.
Cynlluniau Achredu Lleol:
Mae pob cynllun achredu lleol yng Nghymru yn ddibynnol ar gyflawni safonau penodol o ran cyflwr yr eiddo.
Ni chaiff y cynlluniau hyn eu disodli gan y cynllun Achredu Landlordiaid Cymru. Bydd pob Awdurdod Lleol unigol yn penderfynu a ddylid parhau i weithredu cynlluniau achredu lleol. Bydd y cynlluniau lleol yn cydategu’r cynllun Cymru gyfan ac yn cynnig cyfle i landlordiaid ac asiantau ennill cydnabyddiaeth yn lleol ac yn genedlaethol.
Gall y landlordiaid ac asiantau sy’n rhan o gynllun lleol yn ogystal â chenedlaethol fod yn siwr bod pob agwedd ar eu busnes wedi’i asesu a’u bod wedi gwneud popeth y gallant i ddangos eu bod wedi ymrwymo i weithio gyda’r Awdurdod lleol a chynnig llety diogel a reolir yn dda.
Yn ogystal, mae rhai cynlluniau achredu lleol yn cynnig cymhellion ar gyfer ymuno, megis cymorth grant ar gyfer gwaith ar dai mewn ardaloedd adnewyddu, etc. Bydd Awdurdodau lleol yn annog landlordiaid i fod yn rhan o un, neu, o ddewis, y ddau gynllun sydd ar gael yn eu hardal..