Achrediad Landlordiaid
Menter ar y cyd yw’r cynllun, rhwng Tai Sector Preifat/ Gwasanaethau Iechyd yr Amgylchedd o bob un o’r 22 Awdurdod Lleol yng Nghymru, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Yng ngoleuni’r newidiadau diweddar sydd wedi effeithio ar y rheolau a’r rheoliadau ar gyfer y Sector Rhent Preifat, penderfynodd Awdurdodau Lleol Cymru ei bod yn bryd dyfeisio cynllun Achredu Landlordiaid na fyddai’n canolbwyntio ar safonau’r eiddo, ond yn hytrach ar y safonau gwybodaeth a phroffesiynoldeb o fewn y sector.
Bydd y tudalennau yn yr adran hon yn rhoi disgrifiad cryno o'r cynllun, pam ddylech chi ymaelodi, a sut i gofrestru ar gyfer achrediad yng Nghymru. Hefyd, hwyrach y cewch atebion i'ch cwestiynau yn yr adran Cwestiynau Cyffredin.