Croeso i Achredu Landlordiaid Cymru

Sut?

Sut ydw i’n cael achrediad?

Trwy gwblhau’r cwrs datblygu undydd yn llwyddiannus, cytuno i ddilyn cod ymddygiad a datgan eich bod yn ‘addas a phriodol'.

Ni chodir unrhyw ffi am ymaelodi â'r cynllun, ond rhaid i chi dalu i fynd ar y cwrs datblygu.

Sut ydw i’n ymaelodi â’r cynllun?

Gallwch wneud cais ar-lein a chael gostyngiad yn y ffi ar gyfer y cwrs datblygu, neu gallwch gael ffurflen gais trwy’r post trwy gysylltu â gweinyddwr y cynllun.

Gwneud cais ar-lein:

Gan ddibynnu a ydych yn landlord preifat ynteu’n rhan o gwmni, gweler y cyfarwyddiadau isod:

Ar gyfer ceisiadau unigol – mae mor hawdd ag 1, 2, 3!

  1. 1. Ewch i CAIS AR-LEIN a llenwch y ffurflen gais ddiogel ar-lein. Bydd angen i chi ymrwymo i’r cod ymddygiad hefyd, datgan eich bod yn addas a phriodol a derbyn yr amodau a thelerau.
  2. 2. Archebwch a thalwch am y sesiwn datblygu undydd.
  3. 3. Ewch i’r sesiwn undydd a’i phasio’n llwyddiannus.

Os ydych yn gwmni neu bartneriaeth, bydd rhaid dilyn y broses ganlynol i ymaelodi â’r cynllun:

  1. 1. Bydd yr ymgeisydd yn gwneud cais ar-lein ar ran y cwmni. Os ydych yn asiant, bydd angen i chi allu dangos eich bod yn aelod o gorff proffesiynol cydnabyddedig er mwyn sicrhau bod gennych Yswiriant Diogelu Arian Cleientiaid ac Indemniad Proffesiynol.
  2. 2. Yn ystod y broses gwneud cais, gall y cwmni anfon e-bost at ei staff yn gofyn iddynt hwythau ymaelodi â’r cynllun hefyd.
  3. 3. bydd angen i bob aelod o staff sy'n gweithio yn y busnes gosod a rheoli eiddo lenwi cais unigol (gan ddilyn camau 1,2,3, a 4 uchod). Yna, bydd angen i ddwy ran o dair o'r staff hynny ddilyn sesiwn datblygu undydd.
  4. 4. Gellir archebu a thalu am y cwrs undydd o gyfrif y cwmni neu gall yr aelodau unigol o staff archebu a thalu am y sesiwn.
  5. 5. Unwaith y bydd y broses gyfan wedi’i chwblhau, caiff eich cwmni ei achredu, ynghyd â phob aelod unigol o staff yn ei enw ei hunan (os bydd wedi cwblhau’r cwrs).

Pan fyddant wedi’u hachredu, gall landlordiaid ac asiantau fanteisio ar y canlynol:

  • Cewch dystysgrif a chopi o logo’r cynllun i’w ddefnyddio wrth hysbysebu’ch busnes.
  • Cewch becyn croeso a fydd yn cynnwys llawlyfr i gydategu’r sesiwn datblygu yr aethoch arni, yn ogystal â rhestr ddefnyddiol o enwau cyswllt a gwybodaeth fuddiol arall.
  • Cewch gadw’ch mynediad at eich cyfrif ar-lein. Gellir defnyddio’r cyfrif hwn i gadw cofnod o’r Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) a gallwch lwytho ffotograffau o’ch eiddo i denantiaid eu gweld wrth chwilio am landlordiaid achrededig. Hefyd, cewch ddiweddaru eich manylion cyswllt a chael newyddion a hanes digwyddiadau ar-lein, pryd bynnag y bydd yn gyfleus.
  • Bydd gweinyddwr y cynllun wrth law i gynorthwyo pryd bynnag y gall, p’un ai trwy drefnu hyfforddiant ychwanegol, rhoi’r enw cyswllt cywir yn yr Awdurdod Lleol i chi, neu roi cymorth a chyngor cyffredinol.

Popular PagesPopular Pages

CPD Events
News
 

NewsLawr lwythiadau

PDFLandlord Accreditation Wales One-Day Course Syllabus Download Now >
Cyngor Sir Ynys Môn Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili Cyngor Caerdydd Cyngor Sir Gaerfyrddin Cyngor Sir Ceredigion Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy Cyngor Sir Ddinbych Cyngor Sir y Fflint Cyngor Gwynedd Cyngor Bwrdeisdref Sirol Merthyr Tydfil Cyngor Sir Fynwy Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell nedd Port Talbot Cyngor Dinas Casnewydd Cyngor Sir Penfro Cyngor Sir Powys Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf Dinas a Sir Abertawe Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen Cyngor Bro Morgannwg Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam Llywodraeth Cynulliad Cymru