Unigolyn Addas
Mae’r diffiniad hwn yn seiliedig ar yr un a roddir yn Neddf Tai 2004 ar gyfer penderfynu ar addasrwydd trwyddedai.
Os oes unrhyw fater nad yw'n cyd-fynd â’r datganiad o unigolyn addas a phriodol, dylech gysylltu â gweinyddwr y cynllun. Bydd ef/hi yn ymchwilio i’r mater ac yn cysylltu â chi i drafod eich cais wedyn. Efallai na fydd bodolaeth mater o’r fath yn rhwystr i’ch achrediad.
Yr wyf yn datgan fy mod yn unigolyn addas a phriodol i gael fy achredu. Nid oes gen i, nac unrhyw unigolyn sydd, neu a fu, yn gysylltiedig â mi unrhyw gollfarn sydd heb ddarfod ac sy'n berthnasol i'm cais, yn enwedig:
- Unrhyw dramgwydd yn ymwneud â thwyll neu anonestrwydd arall, neu drais neu gyffuriau, neu unrhyw dramgwydd a restrir yn Atodlen 3 i Ddeddf Troseddau Rhywiol 2003.
- Ymgymryd ag unrhyw wahaniaethu anghyfreithlon ar sail rhyw, lliw, hil, tarddiad ethnig neu genedlaethol neu anabledd wrth gyflawni unrhyw fusnes neu mewn perthynas â hynny.
- Canfyddiad fy mod wedi ymddwyn mewn modd nad yw’n cydymffurfio ag unrhyw god ymarfer cymeradwy o dan adran 233.
Yn ychwanegol, dros y pum mlynedd diwethaf nid wyf i nac unrhyw unigolyn sydd, neu a fu, yn gysylltiedig â mi wedi tramgwyddo yn erbyn unrhyw ddarpariaeth o’r gyfraith tai a/neu landlordiaid neu denantiaid. Mae’r rhain yn cynnwys, ond nid yn gyfyngedig i:
- Bod â rheolaeth dros eiddo a fu’n destun Gorchymyn Rheoli o dan adran 379 o ddeddf Tai 1985.
- Cael gwrthod neu ddirymu trwydded, neu dramgwyddo yn erbyn amodau trwydded ar gyfer unrhyw eiddo mewn perthynas â chynllun trwyddedu mandadol, ychwanegol neu ddethol o dan Ddeddf Tai 2004.
- Bod â rheolaeth dros eiddo y mae’r Awdurdod Lleol wedi cyflawni gwaith arno yn niffyg gweithredu gan y landlord.Bod â rheolaeth dros unrhyw eiddo a fu'n destun
- Bod â rheolaeth dros unrhyw eiddo a fu'n destun Gorchymyn Rheoli Interim neu derfynol neu Orchymyn Arbennig Interim o dan Ddeddf Tai 2004.
- Bod â rheolaeth dros eiddo lle buoch yn destun camau cyfreithiol am dramgwydd troseddol neu gamau gweithredu eraill gan Awdurdod Lleol neu Gorff Rheoleiddio (megis tramgwyddau yn erbyn Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990, Rheoli Cynllunio, Pryniant Gorfodol neu Ofynion Diogelwch Tân).
- Wedi’ch collfarnu am unrhyw gyhuddiadau’n ymwneud ag aflonyddu neu droi tenantiaid allan yn anghyfreithlon.