Croeso i Achredu Landlordiaid Cymru

FAQ's

Beth yw Achredu Landlordiaid Cymru?

Pwy all gael achrediad?

Sut ydw i’n cael archrediad?

Rydw i’n rhan o sefydliad. A ellir achredu’r sefydliad?

Faint mae’n ei gostio i fynd yn landlord achrededig?

Am ba hyd y bydd yr achrediad yn ddilys?

Beth yw unigolyn ‘addas a phriodol’?

Beth fydd y Cod Ymddygiad yn ei ofyn gennyf?

Beth fydd y cwrs yn ei addysgu i mi?

Pa fanteision a gaf i o'r cynllun ALC?

Beth ydw i’n ei gael ar ôl ymaelodi?

Rydw i eisoes yn aelod o Gynllun Achredu Landlordiaid Llundain; a ddylwn i ymaelodi â’r cynllun hwn hefyd?

Fel landlord achrededig, hoffwn sicrwydd y bydd tenantiaid yn edrych ar ôl fy eiddo. Sut fyddwch chi’n rhoi'r sicrwydd hwnnw i mi?

Pwy sy’n rhedeg y cynllun ALC?

Sut mae gwneud cais?

Mae gen i gwestiwn nad yw wedi’i restru yma. Sut alla i gysylltu â chi?

 

Beth yw Achredu Landlordiaid Cymru?

Mae Achredu Landlordiaid Cymru yn gynllun cenedlaethol. Mae’n cydnabod landlordiaid da ac yn eu helpu i wahaniaethu eu hunain oddi wrth y landlordiaid llai cyfrifol sy’n rhoi enw drwg i’r farchnad rhentu. Mae hefyd yn galluogi tenantiaid i ganfod landlordiaid proffesiynol sy’n cynnig llety o safon sydd wedi’i reoli’n dda.

Mae’n gweithio trwy achredu’r landlord, nid yr eiddo. Bydd cyfranogwyr yn cael eu cydnabod fel landlordiaid sy’n gymwys a phroffesiynol wrth ymdrin â’u tenantiaid ac â’r sgiliau sydd eu hangen i redeg busnes llwyddiannus.

Fel sefydliad, mae Achredu Landlordiaid Cymru (ALC) yn cefnogi landlordiaid trwy roi gwybodaeth a chanllawiau am y newidiadau yn y ddeddfwriaeth a rhannu arferion da. Gall aelodau ddefnyddio’r logo trawiadol ALC yn fathodyn ar gyfer dangos eu proffesiynoldeb ac ennill mantais yn y farchnad.

Pwy all gael achrediad?

Gall unrhyw unigolyn, cwmni cyfyngedig neu asiant gael achrediad; gan gynnwys pobl sy’n ystyried mynd yn landlord, nad ydynt yn berchen ar eiddo ar hyn o bryd.

Sut ydw i’n cael archrediad?

Rhaid i ymgeisydd unigol wneud y canlynol i gael achrediad:

  • Llofnodi datganiad ei fod ef/hi yn unigolyn ‘addas a phriodol’.
  • Cytuno i ddilyn Cod Ymddygiad y cynllun.
  • Cwblhau cwrs datblygu proffesiynol undydd yn llwyddiannus.

Rydw i’n rhan o sefydliad. A ellir achredu’r sefydliad?

Gellir.

Er mwyn i sefydliad (boed yn bartneriaeth neu’n gwmni cyfyngedig, gan gynnwys asiantau) gael ei achredu, bydd angen cyflawni’r meini prawf canlynol:

  • Rhaid i’r holl staff, gan gynnwys Cyfarwyddwyr neu Bartneriaid sy’n ymwneud yn weithredol â’r busnes rhentu ymrwymo i’r cod ymddygiad ac ardystio eu bod yn unigolion addas a phriodol.
  • Rhaid i ddwy ran o dair (2/3) (ffigwr wedi’i dalgrynnu) o’r staff, gan gynnwys y Cyfarwyddwyr neu Bartneriaid sy’n ymwneud yn weithredol â’r busnes rhentu gwblhau’r cwrs datblygu undydd.
  • Os yw’r cwmni yn asiant, rhaid iddo fod yn aelod o gynllun proffesiynol cydnabyddedig ar gyfer asiantau sy'n rheoli neu'n gosod eiddo. Mae'r rhain yn cynnwys:
    • Cymdeithas yr Asiantau Gosod Tai Preswyl (ARLA)
    • Cynllun Gosod Tai Cymeradwy Cenedlaethol (NALS)
    • Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS)
    • Cymdeithas Genedlaethol yr Asiantau Tai
    • Cymdeithas Asiantau Gosod a Rheoli Tai (ALMA) [De Cymru yn unig]
    neu unrhyw gynllun arall i safon gyffelyb, a gydnabyddir gan weinyddwr y cynllun.

Bydd yr holl unigolion sy’n cael achrediad trwy gwblhau'r cwrs yn llwyddiannus yn cyfrannu at gael achrediad i'w sefydliad, yn ogystal â chael achrediad eu hunain.

Faint mae’n ei gostio i fynd yn landlord achrededig?

Ni chodir ffi am yr achrediad. Fodd bynnag, codir ffi i dalu cost y cwrs datblygu y mae'n rhaid ei gwblhau i gael mynd yn aelod o'r cynllun.

Cost y cwrs yw £75.00 i'r rhai sy'n cofrestru ar-lein. Mae hwn yn 20% o ostyngiad ar y ffi arferol o £90.00 a godir ar ymgeiswyr papur.

Am ba hyd y bydd yr achrediad yn ddilys?

Mae’r achrediad yn parhau'n ddilys am bum mlynedd. Byddwn yn cysylltu â chi pan fydd eich achrediad ar fin dod i ben ac yn eich hysbysu o'r weithdrefn ar gyfer ei adnewyddu. Bydd hyn yn golygu ailddatgan eich bod yn addas a phriodol a chyflwyno cofnod o’ch gweithgarwch datblygiad proffesiynol parhaus (DPP).

Gellir casglu pwyntiau DPP trwy fynychu hyfforddiant ychwanegol, diwrnodau gwybodaeth i landlordiaid, cyfarfodydd fforwm a thrwy fynd yn aelod o gymdeithas landlordiaid achrededig, h.y. yr holl bethau y bydd aelodau’n ei wneud er mwyn cynnal eu lefel o wybodaeth ac arbenigedd. Yn ystod y 5 mlynedd o achrediad, hwyrach y byddwn yn cysylltu â chi ar hap i wirio eich gweithgarwch DPP. Argymhellir felly i chi gasglu cyfartaledd o 12 pwynt y flwyddyn.

Beth yw unigolyn ‘addas a phriodol’?

Daw’r diffiniad o unigolyn addas a phriodol o ddeddf Tai 2004, ac, yn fras, mae'n golygu unigolyn y byddai'n rhesymol tybio ei fod yn landlord da.

Gellir darllen y diffiniad o unigolyn addas a phriodol yma.

Beth fydd y Cod Ymddygiad yn ei ofyn gennyf?

Mae’r Cod yn mynnu bod landlordiaid yn gweithio o fewn y rheolau cyfreithiol mewn perthynas â gosod a rheoli eiddo. Mae hefyd yn mynnu bod gwaith brys yn cael ei gyflawni'n brydlon, cynllun gweithredu'n cael ei baratoi a'i roi ar gael i'r tenantiaid a staff yr Awdurdod Lleol ei weld.

I ddarllen yr holl bwyntiau yn y Cod Ymddygiad, cliciwch yma.

Beth fydd y cwrs yn ei addysgu i mi?

Bydd y cwrs yn rhoi amlinelliad o’r prif reolau a rheoliadau y dylid glynu atynt wrth redeg busnes llwyddiannus. Mae’r rhain yn cynnwys materion yn ymwneud â’r landlordiaid a thenantiaid, contractau a rheoli eiddo. I gydategu’r cwrs, byddwch hefyd yn cael copi cyfeiriol o Ganllaw i Landlordiaid a fydd yn ymdrin mewn modd cynhwysfawr â’r materion a addysgir yn y cwrs, a rhagor.

Pa fanteision a gaf i o'r cynllun ALC?

Cydnabyddiaeth: Mae bod yn Landlord Achrededig ALC yn eich gwneud yn well na’r lleill. Bydd y cynllun yn cydnabod yn gyhoeddus eich bod yn landlord rhesymol sydd nid yn unig yn cynnal safonau eiddo ond hefyd yn trin tenantiaid yn deg ac yn rheoli’r eiddo’n dda.
Mantais yn y Farchnad: Bydd ymgyrch farchnata ALC yn sicrhau bod yr achrediad yn cael ei ddeall a’i gydnabod yn eang gan denantiaid cyfredol a darpar denantiaid. Bydd gwefan ALC hefyd yn cynnwys cronfa ddata o eiddo yn galluogi tenantiaid i chwilio am landlordiaid achrededig a’r eiddo sydd ganddynt i’w osod. Hefyd, mewn rhai ardaloedd bydd y cynllun yn manteisio ar gefnogaeth a chysylltiad llawn â mentrau mewn Prifysgolion, etc.
Brandio: Cewch ddefnyddio logo ALC mewn hysbysebion ac ar eich gohebiaeth i hyrwyddo eich hunan, gan roi mantais i chi o gymharu â'r gweddill.
Gwybodaeth: Fel landlord achrededig, cewch fynediad ar hyfforddiant a’r canllawiau gorau i arferion da. Gall landlordiaid fanteisio ar ein canllawiau a'n digwyddiadau gwybodaeth er mwyn deall yn iawn sut i reoli eiddo a sut i ddelio â thenantiaethau mewn amgylchedd sy’n newid yn barhaus.
Gostyngiadau ar Wasanaethau: Fel landlord achrededig, cewch fynediad at amrywiaeth o wasanaethau am bris gostyngedig a negodwyd yn arbennig gan ALC. Gweler ein rhestr gyfredol o gynigion.

Beth ydw i’n ei gael ar ôl ymaelodi?

Unwaith y byddwch yn rhan o’r cynllun, cewch y canlynol:

  • Pecyn gwybodaeth i aelodau
  • Cerdyn a rhif aelodaeth
  • Eich tystysgrif achrediad
  • Dyluniad a safonau logo’r cynllun.

Rydw i eisoes yn aelod o Gynllun Achredu Landlordiaid Llundain; a ddylwn i ymaelodi â’r cynllun hwn hefyd?

Dylech; yn wir, byddwn yn gallu manteisio ar y ffaith na fydd rhaid i chi ddilyn diwrnod o hyfforddiant na thalu'r ffi i fynd yn aelod llawn o ALC.

Fel landlord achrededig, hoffwn sicrwydd y bydd tenantiaid yn edrych ar ôl fy eiddo. Sut fyddwch chi’n rhoi'r sicrwydd hwnnw i mi?

Byddwn yn gweithio gyda grwpiau tenantiaid ac yn defnyddio'n gwefan hefyd i addysgu tenantiaid a gwella'r ymgysylltiad â hwy. Credwn fod landlord da yn haeddu tenant da, ac i’r gwrthwyneb hefyd.

Pwy sy’n rhedeg y cynllun ALC?

Caiff y cynllun ei redeg trwy bartneriaeth o 22 Awdurdod Lleol yng Nghymru. Mae’r Awdurdodau Lleol hefyd yn cydweithio’n agos â sefydliadau eraill megis Prifysgolion, Cymdeithasau Landlordiaid, etc.

Gweinyddir y cynllun gan Gyngor Caerdydd ar ran y bartneriaeth.

Sut mae gwneud cais?

Gallwch wneud cais ar-lein i fynd yn Landlord Achrededig ALC.

Mae gen i gwestiwn nad yw wedi’i restru yma. Sut alla i gysylltu â chi?

Gweler ein tudalen manylion cyswllt..

Popular PagesPopular Pages

CPD Events
News
 

NewsLawr lwythiadau

PDFResults of Cardiff Landlord Survey 2011 from Nov 11 Forum Download Now >
Cyngor Sir Ynys Môn Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili Cyngor Caerdydd Cyngor Sir Gaerfyrddin Cyngor Sir Ceredigion Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy Cyngor Sir Ddinbych Cyngor Sir y Fflint Cyngor Gwynedd Cyngor Bwrdeisdref Sirol Merthyr Tydfil Cyngor Sir Fynwy Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell nedd Port Talbot Cyngor Dinas Casnewydd Cyngor Sir Penfro Cyngor Sir Powys Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf Dinas a Sir Abertawe Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen Cyngor Bro Morgannwg Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam Llywodraeth Cynulliad Cymru