Croeso i Achredu Landlordiaid Cymru

Hoffech chi wybod mwy?Croeso

Achredu Landlordiaid Cymru

Croeso i wefan Achredu Landlordiaid Cymru. Ar y wefan hon, cewch hyd i wybodaeth fuddiol os ydych yn landlord, asiant neu’n denant sy’n byw mewn, neu’n gweithio gyda, llety rhent preifat.

Gall landlordiaid a thenantiaid yn benodol ddefnyddio’r wefan hon i ddysgu mwy am gynllun Achredu Landlordiaid Cymru a chofrestru i ymaelodi â’r cynllun.

Menter ar y cyd yw’r cynllun, rhwng Tai Sector Preifat/ Gwasanaethau Iechyd yr Amgylchedd o bob un o’r 22 Awdurdod Lleol yng Nghymru, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Amdanom niarrow

Yng ngoleuni’r newidiadau diweddar sydd wedi effeithio ar y rheolau a’r rheoliadau ar gyfer y Sector Rhent Preifat, penderfynodd Awdurdodau Lleol Cymru ei bod yn bryd dyfeisio cynllun Achredu Landlordiaid na fyddai’n canolbwyntio ar safonau’r eiddo, ond yn hytrach ar y safonau gwybodaeth a phroffesiynoldeb o fewn y sector

Gwneud Cais Ar-leinarrow

I ymaelodi â’r cynllun, rhaid i landlordiaid ac asiantau ddod i sesiwn ddatblygu undydd. Os gwnewch gais ar-lein, cewch arbed 20%, gan dalu £75.00. Dilynwch y ddolen hon i gael gweld y cyrsiau sydd ar gael yn eich ardal chi, a chofrestru ar gyfer cyfrif ar-lein.

Landlord GuidanceCanllaw i Landlordiaidarrow

Gwybodaeth ar gyfer landlordiaid ac asiantau rhagweithiol sy’n awyddus i wybod mwy am y newidiadau parhaus yn y rheolau a’r rheoliadau sy’n effeithio ar eu busnes rhentu.

Tenant GuidanceCanllaw i Denantiaidarrow

I denantiaid gael dysgu am eu hawliau a’u cyfrifoldebau wrth rentu. Hefyd, defnyddiwch y cyfleuster chwilio ar-lein i gael hyd i landlordiaid achrededig yn eich ardal.

Popular PagesPopular Pages

CPD Events
News
 

NewsLawr lwythiadau

PDFDigital Switchover Leaflet Download Now >
Cyngor Sir Ynys Môn Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili Cyngor Caerdydd Cyngor Sir Gaerfyrddin Cyngor Sir Ceredigion Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy Cyngor Sir Ddinbych Cyngor Sir y Fflint Cyngor Gwynedd Cyngor Bwrdeisdref Sirol Merthyr Tydfil Cyngor Sir Fynwy Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell nedd Port Talbot Cyngor Dinas Casnewydd Cyngor Sir Penfro Cyngor Sir Powys Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf Dinas a Sir Abertawe Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen Cyngor Bro Morgannwg Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam Llywodraeth Cynulliad Cymru