Canllaw i Denantiaid
Ydych chi’n cael anhawster canfod llety addas a reolir yn dda? Ydych chi’n ansicr ynghylch lle i droi i gael cyngor a chymorth? Darllenwch ymlaen felly...
I’r rhai nad oeddent yn gwybod eisoes, mae’r Cynghorau’n gyfrifol am oruchwylio safonau a lefelau rheoli y Sector Rhent Preifat yn unol â’u dyletswyddau yn y Deddfau Tai.
Sut ydw i'n cael hyd i lety rhent a reolir yn dda?
Nid oes rhaid i chi chwilio ymhellach na’r cynllun hwn!
Dylech droi at y landlordiaid ac asiantau sy’n aelodau o gynllun Achredu Landlordiaid Cymru yn gyntaf wrth chwilio am lety rhent. Byddant yn eich trin yn broffesiynol a byddwch yn gwybod bod ganddynt yr holl wybodaeth sydd ei hangen i sicrhau bod eich amser yn eu llety hwy yn bleserus a didrafferth.
I’ch cynorthwyo i gael hyd i landlordiaid achrededig yn eich ardal, ar gyfer gwahanol fathau o lety, defnyddiwch y cyfleuster chwilio ar y wefan hon.