Croeso i Achredu Landlordiaid Cymru

Pam?

Pam fyddai’r cynllun hwn yn addas i mi?

Os ydych am wneud yn siwr bod eich busnes rhentu’n rhedeg yn llyfn ac yn cydymffurfio â’r gyfraith, dylech ymaelodi â’r cynllun hwn. Byddwch yn gallu dangos i denantiaid posibl eich bod wedi ymrwymo i ddarparu llety o ansawdd sydd wedi'i reoli'n dda. Dylai'r achrediad roi mantais i chi wrth gystadlu yn erbyn darparwyr eraill a byddwch yn gallu bod yn sicr bod eich busnes yn 'gwneud pethau'n iawn'.Mae’r cynllun yn agored i unrhyw un sy'n byw neu'n gweithio yng Nghymru - boed yn ystyried prynu llety ar gyfer ei osod neu wedi bod yn rhentu portffolio o eiddo ers blynyddoedd.

Beth yw manteision ymaelodi â’r cynllun?

Mae nifer o ffyrdd y gall landlordiaid fanteisio i’r eithaf ar y buddion a’r cymhellion sy’n gysylltiedig â’r Cynllun Achredu.

I lawer o landlordiaid, bydd y wybodaeth a gânt trwy fynd ar y cwrs a'r gydnabyddiaeth a ddaw o fod yn aelod o'r cynllun yn ddigon, ond deallwn hefyd y bydd pobl am gael gwerth am eu harian ac yn disgwyl mwy.

Mae’r cynllun yn gweithio’n barhaus i gynyddu a gwella amrywiaeth o gymhellion a buddion a gynigir gan y cynllun. Mae'n bosibl y bydd eich Cyngor lleol yn cynnig rhai ychwanegol hefyd.

Dyma enghreifftiau o’r manteision cyfredol:

  • Marchnata blaenoriaethol: i chi a’ch eiddo ar wefan ALC
  • Gwell mynediad: at Ddigwyddiadau a Chyhoeddiadau Awdurdodau Lleol. Hefyd, cewch fod y cyntaf i glywed am sesiynau ymwybyddiaeth a hyfforddiant ychwanegol.
  • Dogfennau cefnogol: Darperir deunyddiau cyfeiriol ar gyfer y Cwrs Datblygu.
  • Rhwydwaith Cefnogaeth Ehangach: Dewch yn rhan o rwydwaith landlordiaid ehangach
  • Un cais yn cwmpasu pob ardal ALl yng Nghymru: Gan fod y cynllun yn un ar gyfer Cymru Gyfan, nid oes raid i chi ond ymuno un waith, ni waeth faint o ardaloedd ALl y mae gennych eiddo ynddynt.
  • Gwell proffil: i chi a’ch busnes
  • Manteision ariannol: Gostyngiadau ar wasanaethau a chynnyrch oddi wrth amrywiaeth o gyflenwyr

Popular PagesPopular Pages

CPD Events
News
 

NewsLawr lwythiadau

PDFEnergy Efficient, Warm and Healthy Homes Download Now >
Cyngor Sir Ynys Môn Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili Cyngor Caerdydd Cyngor Sir Gaerfyrddin Cyngor Sir Ceredigion Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy Cyngor Sir Ddinbych Cyngor Sir y Fflint Cyngor Gwynedd Cyngor Bwrdeisdref Sirol Merthyr Tydfil Cyngor Sir Fynwy Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell nedd Port Talbot Cyngor Dinas Casnewydd Cyngor Sir Penfro Cyngor Sir Powys Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf Dinas a Sir Abertawe Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen Cyngor Bro Morgannwg Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam Llywodraeth Cynulliad Cymru