|
Byddaf yn gweithredu mewn modd teg, gonest a rhesymol bob tro wrth ddelio â thenantiaid cyfredol a/neu ddarpar denantiaid. Ni fydd tenantiaid cyfredol na/neu darpar denantiaid yn cael eu trin yn llai ffafriol nag unrhyw berson na grwpiau o bobl gennyf i oherwydd eu hil, lliw eu croen, tarddiad ethnig neu genedl, crefydd, rhyw, anabledd, ymddangosiad, statws priodasol, rhywioldeb, gwleidyddiaeth, statws cymdeithasol na'u cyfrifoldeb dros ddibynyddion.
|
|
Yswiriant
|
|
Bydd gennyf yswiriant digonol ac yn cynghori tenantiaid am yr hyn a ddiogelir gan yr yswiriant hwnnw. O ran Yswiriant Cynnwys, byddaf yn nodi yn union pa eitemau yr wyf yn berchen arnynt ac sydd wedi'u hyswirio, ac yn cynghori'r tenantiaid i yswirio'u cynnwys nhw, os dymunant.
|
|
Dogfennau
|
|
Cadwaf gofnodion priodol a llyfrau log, a chadwaf y tystysgrifau sy'n angenrheidiol yn ôl y gyfraith (e.e. tystysgrif diogelwch nwy). Bydd copïau o’r tystysgrifau hyn ar gael i’r tenantiaid. Bydd tystysgrifau o’r fath ar gael i weinyddwr y cynllun ar gais.
|
|
Manylion Perchnogaeth
|
|
Nodir fy nghyfeiriad â’m cyfeiriad gohebiaeth presennol ar y cytundeb tenantiaeth, ynghyd â chyfeiriad a rhifau ffôn unrhyw asiant sy’n rheoli / berson(au) sy’n gweithredu ar fy rhan. Rhaid i un cyfeiriad cyswllt fod yng Nghymru neu Loegr.
|
|
Cytundebau Tenantiaeth
|
|
Byddaf yn darparu cytundeb tenantiaeth ysgrifenedig i’r tenantiaid fydd yn nodi telerau’r denantiaeth yn glir. Cadwaf gopi wedi'i lofnodi o’r cytundeb hwn a rhoddaf gopi wedi’i lofnodi i’r tenantiaid yn ogystal. Yn ogystal â’r gofynion statudol, dylai’r cytundeb tenantiaeth hysbysu’r tenantiaid o’r canlynol:
- Faint o rent sydd i’w dalu, gan gynnwys dyddiadau, symiau a’r dull talu
- Pwy sy’n gyfrifol am dalu biliau cyfleustodau a’r Dreth Gyngor
- A oes ffi i’w thalu ar gyfer trefnu cytundeb gosod
- Y cynllun diogelu blaendal (os oes un i’w gael)
|
|
Rhestr Eiddo
|
|
Bydd rhestr gynhwysfawr (a ddylai gynnwys disgrifiad manwl llawn, gan gynnwys y cyflwr) o’r holl ddodrefn ac offer sydd yn yr eiddo ar gael ar ddechrau’r denantiaeth - bydd unrhyw ddifrod yn cael ei nodi. Byddaf i, a’r tenantiaid, yn llofnodi ac yn dyddio’r rhestr hon, a bydd copi yn cael ei ddarparu ar gyfer y tenantiaid. Cynghorir defnyddio rhestr eiddo ffotograffig.
|
|
Cyflwyniad i’r Eiddo
|
|
Ar ddechrau’r denantiaeth, byddaf yn hysbysu’r tenantiaid ynghylch dyddiau casglu'r sbwriel, sut i ddefnyddio;r gwres canolog a’r dwr poeth, lleoliad y stoptap dwr a falf diffodd y nwy a chloeon y ffenestri a'r drysau. Byddaf hefyd yn cynghori'r tenantiaid ar y defnydd diogel o’r offer tân yn yr eiddo. Rhoddir canllawiau ysgrifenedig pellach yn ôl yr angen/galw.
|
|
Taliadau a wneir gan y tenantiaid
|
|
Byddaf yn cadw cofnod o’r holl daliadau rhent ac yn darparu llyfr rhent (os yw’r rhent yn daladwy yn wythnosol) neu dderbynneb o fath arall ar gyfer yr holl daliadau a wneir gan y tenantiaid.
Os yw’r denantiaeth ar osod i fyfyrwyr, bydd unrhyw drefniadau yn ymwneud â thâl ar gadw dros yr haf yn cael eu nodi yn glir yn ysgrifenedig.
|
|
Ymddygiad Gwrthgymdeithasol
|
|
Pan fo’r cytundeb gosod yn cynnwys cymal sy’n gofyn i’r tenantiaid beidio ag achosi niwsans na phoen, byddaf yn ymdrechu i sicrhau eu bod yn cydymffurfio. Dylai'r ymateb fod yn gymedrol, a dylid cymryd camau cyfreithiol pan fetho popeth arall yn unig.
|
|
Atgyweirio cyn dechrau tenantiaeth
|
|
Bydd unrhyw waith atgyweirio neu welliannau i’r eiddo cyn dechrau’r denantiaeth yn cael eu cadarnhau yn ysgrifenedig a bydd y terfynau amser yn cael eu nodi wrth wneud y cytundeb. Byddaf yn cyflawni unrhyw rwymedigaethau erbyn y dyddiad a gytunwyd gan y naill barti a’r llall.
|
|
Trwyddedu
|
|
Rhai i mi fod wedi gwneud cais ar gyfer unrhyw drwydded tai amlfeddiannaeth (HMO), ac ar gyfer pob eiddo sydd mewn ardal drwyddedu ddetholus. Rhaid i bob eiddo o’r fath gydymffurfio ag amodau’r drwydded o fewn y terfynau amser a gytunir.
|
|
Rheoliadau Adeiladu, Caniatâd Cynllunio a Chontractwyr Cymwys
|
|
Os gwnaf unrhyw newidiadau i’r eiddo sydd yn gofyn am reoliadau adeiladu neu ganiatâd cynllunio, byddaf yn sicrhau bod y caniatâd priodol yn cael ei geisio cyn dechrau’r gwaith, a byddaf yn sicrhau bod y gwaith yn cael ei ardystio pan fydd wedi ei orffen.
Os oes angen gwneud gwaith neu wasanaethu offer nwy neu ffliwiau, byddaf yn cyflogi rhywun sy’n gymwys (wedi’i gofrestru â CORGI).
Os oes angen gwneud gwaith sydd yn dod o dan adran P y Rheoliadau Adeiladu, byddaf yn hysbysu Rheoli Adeiladu, neu yn cyflogi Person Cymwys Awdurdodedig, sydd wedi'i ardystio gan un o’r sefydliadau canlynol:
- BRE Certification Cyf;
- Y Sefydliad Safonau Prydeinig;
- ELECSA Cyf;
- NAPIT Certification Cyf;
- NICEIC Certification Services Cyf.
Wrth gynnal archwiliadau a phofion rheolaidd, byddaf hefyd yn sicrhau fy mod yn cyflogi person cymwys awdurdodedig.
|
|
Cyflwr yr Eiddo
|
|
Byddaf yn sicrhau bod yr eiddo ac unrhyw dir o fewn ei ffiniau yn rhydd o unrhyw beryglon y gellir eu hosgoi yn ôl y System Graddio Iechyd a Diogelwch Tai. Yn ychwanegol, ni ddylai fod unrhyw beryglon Categori 1 yn yr eiddo. Rhaid i bob llety fod mewn cyflwr rhesymol, a digon o amwynderau a chyfleusterau eraill fel y nodir mewn deddfwriaeth a safonau lleol.
Byddaf yn gwella unrhyw lety ansafonol i gyflawni’r safonau cyfreithiol gofynnol o fewn terfynau amser rhesymol. Byddaf yn paratoi Cynllun Gwella, sy’n nodi sut, ac o fewn pa derfyn amser, y bwriadaf wella unrhyw eiddo sydd yn ansafonol. Gall unrhyw Awdurdod Lleol wneud cais am y cynllun hwn, os oes rheswm i archwilio’r eiddo wrth gyflawni eu swyddogaethau statudol.
|
|
Atgyweiriadau a Chynnal a Chadw
|
|
Byddaf yn sicrhau bod tu fewn yr eiddo ac unrhyw erddi/iard ayb yn lân ac yn daclus ar ddechrau pob tenantiaeth.
Bydd unrhyw ardaloedd cymunedol sy’n gyfrifoldeb i mi yn cael eu cadw yn lân ac yn daclus, a byddaf yn sicrhau bod yr eiddo mewn cyflwr da trwy gydol y denantiaeth.
Byddaf, trwy holl ymdrechion a chyfrifoldebau rhesymol, yn cynnal a chadw, o fewn rheswm, ymddangosiad anheddau, tai allanol, gerddi, iardiau a ffiniau, rhag mennu ar harddwch yr ardal.
Byddaf yn nodi yn ysgrifenedig, ar ddechrau’r denantiaeth, â phwy y dylid cysylltu ar gyfer gwaith atgyweirio, gan gynnwys rhif ffôn mewn argyfwng, y tu allan i oriau swyddfa, ar gyfer y penwythnosau a chyda’r nos.
Byddaf yn ymateb i geisiadau i atgyweirio o fewn amser rhesymol, sydd, mewn amgylchiadau arferol, fel a ganlyn:
Blaenoriaeth Un – Atgyweiriadau Argyfwng: : Unrhyw atgyweirio sydd angen eu gwneud i osgoi perygl i iechyd; risg i ddiogelwch y preswylwyr neu niwed difrifol i adeiladau neu gynnwys mewnol – o fewn 24 awr i adrodd am y nam. Mewn amgylchiadau pan nad yw hyn yn ymarferol, byddaf yn gwneud y trefniadau dros dro gorau posibl.
Blaenoriaeth Dau – Atgyweiriadau Brys:Atgyweirio namau sy’n amharu ar gysur neu gyfleustra y preswylwyr – o fewn pum niwrnod gwaith i'r adrodd am y nam.
Blaenoriaeth tri – Atgyweiriadau arferol, heb fod yn rhai brys: Gwaith atgyweirio ymatebol nad yw o fewn y categorïau uchod – o fewn 28 diwrnod gwaith i adrodd am y nam.
Byddaf yn ymweld â’m heiddo o dro i dro fel y bo’n addas i archwilio’r cyflwr cyffredinol ac unrhyw waith atgyweirio sydd ei angen (gan nodi’r wybodaeth wrth ymweld â’r eiddo isod).
Byddaf yn cynnwys gwelliannau effeithlonrwydd ynni mewn cynlluniau ailwampio, pan fo hynny’n ymarferol.
|
|
Ymweld â’r Eiddo
|
|
Byddaf yn parchu hawl y tenant i fwynhau’r eiddo yn dawel a heddychlon, a derbyn nad oes hawl gennyf i gael mynediad at ardal fyw y tenant heb ganiatâd.
Pan fod angen mynediad er mwyn cynnal archwiliad(au) neu i bobl weld yr eiddo, bydd y tenant yn derbyn hysbysiad o’r dyddiad, amser a phwrpas yr ymweliad, ddim llai na 24 awr o flaen llaw, oni chytunir yn wahanol, ac eithrio pan nad yw rhoi hysbysiad o'r fath yn ymarferol e.e. mewn gwir argyfwng).
|
|
Adennill Meddiant
|
|
Ni fyddaf yn defnyddio unrhyw ddull anghyfreithlon o adennill meddiant yr eiddo.
|
|
Geirdaon
|
|
Ni fyddaf, onid oes rheswm da, yn gwrthod rhoi geirda i denant er mwyn iddo ef/hi sicrhau tenantiaeth newydd.
|
|
Diweddu Tenantiaethau
|
|
Rhoddir canllawiau clir ysgrifenedig i denantiaid ynghylch safon glanhau a threfniadau eraill, gan gynnwys y cyfnod o rybudd sydd ei angen i ddiweddu tenantiaeth, er mwyn osgoi camddealltwriaeth ynglyn â’r safon o lendid a chyflwr a ddisgwylir yn yr annedd ar ddiwedd y denantiaeth.
|
|
Cyffredinol
|
|
Byddaf yn sicrhau fy mod yn cynnal a gwella fy ngwybodaeth am y ddeddfwriaeth gyfredol berthnasol ac arfer da.
Ni fyddaf yn ymddwyn mewn modd a fyddai’n dwyn gwarth ar y Cynllun Achredu.
Mae pob cyfeiriad at unigolyn yn y Cod hwn yr un mor gymwys i Gyfarwyddwyr, Partneriaid a/neu'r rheini a gyflogir gan Gwmni neu fusnes a achredir gan y cynllun hwn.
|
|
Penodol i Asiantau
|
|
Fel asiant byddaf yn darparu datganiadau ysgrifenedig o amodau a thelerau i’r landlord, gan fanylu ar hawliau a chyfrifoldebau a rhwymedigaethau cytundeb yr asiant.
Bydd asiantau nad ydynt yn gyfrifol am safonau’r eiddo yn hysbysu’r landlord yn ysgrifenedig am unrhyw beth sydd angen sylw neu unrhyw ofynion statudol eraill, a byddant yn hysbysu’r Awdurdod Lleol os nad yw’r landlord yn unioni unrhyw broblemau mewn amser derbyniol. Fel asiant byddaf, pan fydd unrhyw breswylydd yn fy hysbysu o unrhyw risg i iechyd neu ddiogelwch, yn ei gynghori ef/hi i hysbysu’r Awdurdod Lleol. Os nad yw’r preswylydd yn gallu gwneud hyn, byddaf yn adrodd am y mater ar ei ran ef/hi.
Byddaf yn darparu gwybodaeth i’r holl landlordiaid am y Cynllun Achredu Landlordiaid Cymru, a’u hannog i ymuno.
|